Y Pwyllgor Cyllid

 

Gwaith Craffu Ariannol ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

 

Papur i’w nodi:  Memorandwm Ariannol

 

Dyddiad y papur

18 Gorffennaf 2012

 

 

 

Gwybodaeth Berthnasol

 

Llywodraeth Cymru, Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 9 Gorffennaf 2012

Llywodraeth Cymru, Memorandwn Esboniadol - Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 9 Gorffennaf 2012

Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid,  Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), Datganiad Ysgrifenedig gan y Cabinet, 9 Gorffennaf 2012

 

 


Paratowyd y nodiadau briffio hyn gan y Gwasanaeth Ymchwil i’w defnyddio gan y Pwyllgor Cyllid.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Martin Jennings o’r Gwasanaeth Ymchwil ar
rif estyniad ffôn. 8057
E-bost: martin.jennings@cymru.gov.uk

Description: \\GBA01\Home\OrrR\My Pictures\MRS2.PNG



1.        Cyflwyniad

Gosodwyd Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2012.[1]  Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sy’n gyfrifol am graffu ar y Bil hwn.

Nodwyd costau blynyddol ychwanegol o tua £120,000, gyda £20,000 o gostau cychwynnol.

2.        Dibenion

Diben y Bil yw cryfhau a gwella’r trefniadau atebolrwydd a llywodraethu mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

3.        Cynnwys y Bil

Mae Rhan 1o’r Bil yn trafod swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn sefydlu trefniadau ar gyfer penodi i’r swydd a chyfnod y swydd ac yn amlinellu camau i’w cymryd i sicrhau annibyniaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad. Mae Rhan 1 hefyd yn darparu mai Archwilydd Cyffredinol Cymru fydd yr archwilydd statudol ar gyfer cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae Rhan 2 (o adran 13 i adran 28) yn sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru fel corff corfforaethol sy’n cynnwys saith aelod, y bydd pump ohonynt yn cael eu penodi gan y Cynulliad, ynghyd ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ac un o staff Swyddfa Archwilio Cymru a argymhellwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Yn benodol, mae’r Bil yn rhoi’r cyfrifoldebau a ganlyn i Swyddfa Archwilio Cymru ar ei newydd wedd:

¡  monitro Archwilydd Cyffredinol Cymru a rhoi cyngor iddo;

¡  cyflogi staff Swyddfa Archwilio Cymru;

¡  sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu; a

¡  dal eiddo er mwyn cyflawni ei swyddogaethau a swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae’r Bil hefyd yn gofyn bod Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn paratoi amcangyfrif o incwm a gwariant sydd yn rhaid ei osod gerbron y Cynulliad a’i gynnwys yng nghynnig cyllidebol blynyddol y Cynulliad.

Mae’r memorandwm esboniadol yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu i’r trefniadau newydd hyn ddod i rym erbyn 1 Ebrill 2014, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad i’r Bil.[2]

Mae Rhan 3 (o adran 29 i adran 37) yn cynnwys darpariaethau cyffredinol a darpariaethau canlyniadol mewn perthynas â swyddogaethau’r Cynulliad sy’n galluogi iddo wneud darpariaethau drwy reolau sefydlog o ran y swyddogaethau a roddwyd iddo gan y Bil ynghylch Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

4.        Goblygiadau ariannol y Bil.

Yn ôl y memorandwm esboniadol, bydd yr opsiwn a ffefrir o fewn y Bil yn arwain at gostau trosiannol o £20,000 a chostau blynyddol o ychydig dros £150,000.

Swyddfa Archwilio Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn gyfrifol am y costau hyn.

Costau trosiannol

¡    Hysbysebu swydd Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru a swyddi pedwar aelod o’r bwrdd. £20,000 (cost un-tro). Y Cynulliad fydd yn gyfrifol am y gost hon;

Costau blynyddol ar gyfartaledd

¡    Costau rhedeg bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru: £155,000 y flwyddyn. Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys cydnabyddiaeth, arian rhodd a lwfansau eraill y Cadeirydd a’r pedwar aelod o Swyddfa Archwilio Cymru, yn ogystal â chostau’r ysgrifenyddiaeth a chost cymorth technegol. Mae’r memorandwm esboniadol yn datgan mai Swyddfa Archwilio Cymru fyddai’n gyfrifol am y gost hon, sy’n cyfateb i 0.64% o gyllideb gyfredol Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n cael ei hariannu drwy gyfuniad o Gronfa Gyfunol Cymru ac incwm ffioedd.

¡    Rôl oruchwylio gryfach i’r Cynulliad: Bydd angen i’r Cynulliad roi trefniadau priodol yn eu lle i gyflawni ei rôl gryfach o oruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Cyfrifoldeb y Cynulliad yw penderfynu a ddylai hyn gael ei gyflawni drwy bwyllgor sydd eisoes yn bodoli, drwy bwyllgor newydd neu drwy gomisiwn. Bydd costau’n ddibynnol ar sut mae’r Cynulliad yn penderfynu cyflawni hyn.

Mae’r costau hyn yn ychwanegol i’r costau presennol sy’n gysylltiedig ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd â chyllideb flynyddol o £24.2 miliwn.

5.        Materion allweddol

Effaith ar gyllideb Swyddfa Archwilio Cymru

Amcangyfrifir mai cyfanswm costau rhedeg Swyddfa Archwilio Cymru yw tua £155,000 y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i 0.64% o gyllideb gyfredol Swyddfa Archwilio Cymru. Nid yw’r memorandwm esboniadol yn datgan a ddisgwylir i’r arian hwn ddod o gyllidebau presennol, incwm ffioedd neu ddefnydd ychwanegol o Gronfa Gyfunol Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu annibyniaeth Swyddfa Archwilio Cymru.

Yr effaith ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd cost un-tro o £20,000 wrth recriwtio’r cadeirydd a’r pedwar aelod o’r bwrdd. Bydd hefyd gostau recriwtio os bydd angen penodi aelod newydd o’r bwrdd i gymryd lle aelod arall.

Mae rôl oruchwylio gryfach i’r Cynulliad. Mae amcangyfrif o’r costau bellach wedi cael ei ddarparu, oherwydd cyfrifoldeb y Cynulliad yw penderfynu a ddylai’r swyddogaeth hon fod yn rhan o bwyllgor sydd eisoes yn bodoli, pwyllgor newydd neu gomisiwn.

Ar hyn o bryd, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sy’n gyfrifol am graffu ar amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r Bil hwn yn rhoi’r gallu i’r Cynulliad drosglwyddo’r cyfrifoldeb hwn i bwyllgor arall.



[1]Llywodraeth Cymru, Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 9 Gorffennaf 2012 [fel ar 10 Gorffennaf 2012]

[2]Llywodraeth Cymru, Memorandwn Esboniadol - Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), 9 Gorffennaf 2012, paragraff 35 [fel ar 10 Gorffennaf 2012]